Building Bird Feeders and Boosting Biodiversity
At Tremfan Lodge Park, we believe life by the coast is about more than beautiful views, it’s about connecting with nature, supporting wildlife, and giving back to the environment that surrounds us.
We’re proud to once again take part in the BH&HPA David Bellamy Blooming Marvellous Pledge for Nature, continuing our commitment to protecting and enhancing the stunning natural surroundings that make Tremfan Lodge Park so unique.
This month, we’ve joined the Everyone Active Challenge, a nationwide initiative encouraging holiday parks to take part in simple, practical conservation activities that together make a big difference.
To celebrate and pledge our support, every lodge owner will receive a ‘Green fingers Build Your Own Bird Feeder’ kit, offering a fun and creative way to look after our feathered friends right here on the park.
A Simple Idea with a Big Impact
Birds bring colour, song, and life to Tremfan Lodge Park all year round. From robins and blue tits to finches and sparrows, these small creatures play a vital role in our local ecosystem.
As natural food sources become scarce in winter, bird feeders provide essential support, helping sustain wildlife through the colder months and creating a thriving, biodiverse environment.
It’s also a relaxing and rewarding activity that brings our park community together and reminds us how easy it can be to make a difference.
A Haven for Birds All Year Round
Our coastal setting and nature-friendly landscaping attract a wonderful range of species. Among the most common sights are robins, blue tits, and great tits, whose cheerful calls and flashes of colour brighten the park throughout the year.
Look closely and you might also spot chaffinches, goldfinches, and sparrows darting between hedgerows, while blackbirds and thrushes can often be seen searching for food on the ground.
During the spring and summer months, migratory visitors such as swallows and house martins bring energy and excitement to the skies above Tremfan Lodge Park. Their acrobatic flights are a sure sign that warmer days have arrived.
Want to learn more about the wonderful bird species you can spot around the park? Take a look at our blog, Birds of Tremfan Lodge Park, to discover which visitors to look out.
Our Ongoing Commitment to Nature
Our dedication to nature is long-standing. In previous years, we’ve worked with the children of Ysgol Llanbedrog to build over 20 bird boxes, providing safe nesting sites around the park and inspiring the next generation to care for the environment.
Now, through the Everyone Active Challenge, we’re continuing that tradition, adding another chapter to our story of conservation, creativity, and community spirit.
At Tremfan Lodge Park, we’re showing that small actions, from planting pollinator-friendly flowers to building bird feeders, all contribute to a healthier and more vibrant natural world.
Join Our Nature-Loving Community
Tremfan Lodge Park is more than just a place to stay; it’s a place to belong. Nestled in the heart of the beautiful Llŷn Peninsula, our peaceful coastal park offers relaxation, connection, and a shared appreciation for the great outdoors.
Whether you’re already part of our community or looking for your own coastal retreat, we’d love to welcome you to Tremfan Lodge Park, where every lodge, and every action, helps nature thrive.
Adeiladu Porthwyr Adar a Hybu Bioamrywiaeth
I ni ym Mharc Tremfan Lodge, mae bywyd wrth yr arfordir yn golygu mwy na dim golygfeydd hardd; mae hefyd yn ymwneud â chysylltu â byd natur, cefnogi bywyd gwyllt, a rhoi rhywbeth yn ôl i’r byd o’n cwmpas.
Rydyn ni’n falch o gymryd rhan unwaith eto yn y David Bellamy Blooming Marvellous Pledge for Nature gan y British Holiday and Home Parks Association, gan barhau â’n hymrwymiad i ddiogelu a gwella’r amgylchedd naturiol sy’n gwneud Parc Tremfan Lodge yn lle mor unigryw.
Yn ystod y mis, rydyn ni wedi ymuno â’r Everyone Active Challenge, sef menter genedlaethol sy’n annog parciau gwyliau i gymryd rhan mewn gweithgareddau cadwraeth syml ac ymarferol sydd, gyda’i gilydd, yn gwneud gwahaniaeth mawr.
I ddathlu hyn ac i addo ein cefnogaeth, bydd pawb sy’n berchen ar gaban gwyliau yn cael pecyn Greenfingers Build Your Own Bird Feeder, gan gynnig ffordd hwyliog a chreadigol o ofalu am ein ffrindiau pluog yma yn y parc.
Syniad Syml ag Effaith Fawr
Daw adar â lliw, cân a bywyd i Barc Tremfan Lodge drwy gydol y flwyddyn. O’r robin goch i’r titw tomos las, ac o’r llinos i aderyn y to, mae’r creaduriaid bach hyn yn chwarae rhan hollbwysig yn ein hecosystem leol.
Wrth i ffynonellau bwyd naturiol brinhau yn y gaeaf, mae porthwyr adar yn rhoi cymorth hanfodol i fywyd gwyllt, gan eu cynnal drwy’r misoedd oerach a chreu amgylchedd bioamrywiol ffyniannus.
Mae hefyd yn weithgaredd ymlaciol a gwerth chweil sy’n dod â chymuned ein parc at ei gilydd ac yn ein hatgoffa pa mor hawdd y gall fod i wneud gwahaniaeth.
Hafan i Adar Drwy Gydol y Flwyddyn
Mae ein lleoliad arfordirol a’n gwaith tirlunio sy’n gyfeillgar i fyd natur yn denu amrywiaeth wych o rywogaethau. Ymhlith y pethau mwyaf cyffredin a welwch mae’r robin goch, y titw tomos las, a’r titw mawr. Mae cân lawen y rhain â’u lliwiau lliwgar yn bywiogi’r parc drwy gydol y flwyddyn.
Edrychwch yn ofalus ac efallai y gwelwch chi hefyd y ji-binc, y nico ac aderyn y to yn gwibio rhwng y gwrychoedd, ac fe welwch yn aml y fwyalchen a’r fronfraith yn chwilio am fwyd ar y ddaear.
Yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf, daw ymwelwyr mudol fel y wennol a gwennol y bondo ag egni a chyffro i’r awyr uwchben Parc Tremfan Lodge. Mae eu sgiliau hedfan acrobatig yn arwydd sicr bod dyddiau tecach wedi ein cyrraedd.
Eisiau dysgu rhagor am y mathau rhyfeddol o adar y gallwch chi eu gweld o amgylch y parc? Cymerwch olwg ar ein blog, Adar Parc Tremfan Lodge, i ddarganfod pa ymwelwyr i chwilio amdanyn nhw.
Ein Hymrwymiad Parhaus i Fyd Natur
Rydyn ni wedi bod yn ymrwymedig i fyd natur ers tro. Yn y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda phlant Ysgol Llanbedrog i adeiladu dros 20 o focsys adar, gan ddarparu llefydd diogel i adar nythu o amgylch y parc ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i ofalu am yr amgylchedd.
Heddiw, drwy’r Everyone Active Challenge, rydyn ni’n parhau â’r traddodiad hwnnw, gan ychwanegu pennod arall i’n stori o gadwraeth, creadigrwydd ac ysbryd cymunedol.
Ym Mharc Tremfan Lodge, rydyn ni’n dangos bod y pethau bychain, o blannu blodau sy’n gyfeillgar i beillwyr i adeiladu porthwyr adar, i gyd yn cyfrannu at fyd naturiol sy’n fwy iach a bywiog.
Ymunwch â’n Cymuned sy’n Caru Natur
Mae Parc Tremfan Lodge yn fwy na dim ond lle i aros; mae’n lle i bobl berthyn hefyd.




