Why We Love Llanbedrog
Half term reminded us exactly why we love Llanbedrog so much.
The sun shone, the village was buzzing, and best of all, we barely used the car. From Tremfan Lodge Park, everything is right on the doorstep. Tremfan Hall is next door, Llanbedrog Beach is just down the hill, and everything else is linked by footpaths, pavements and coastal trails.
The best part? Everything we enjoyed was within easy walking distance. From exceptional food overlooking Cardigan Bay, to beach breakfasts, paddleboarding, live music and coastal walks, Llanbedrog really does have it all without needing to drive anywhere. You could almost call it sustainable living… although after the cake, ice cream and BBQs, we’ll let that one slide.
Lunch Next Door at Tremfan Hall
One of the highlights was lunch at Tremfan Hall, just a few steps from the park. It’s rare to have such high-quality food literally on your doorstep. With beautifully prepared dishes and panoramic views across Cardigan Bay, it’s the perfect place to slow down and enjoy a sunny afternoon. Sitting outside watching the ever-changing sea, it’s easy to lose track of time. The fact you can simply wander over from your lodge makes it even better, we’re very lucky to have it right next door.
BBQs, Live Music & Aqua Evenings
As the sun went down, we found ourselves heading a short stroll down the hill to Aqua Beach Bar overlooking Llanbedrog Beach. BBQs, live music and sea views make for a pretty unbeatable combination. This half term we especially enjoyed sets from Jukebox Dave and Dominic Holmes, who created the perfect soundtrack to long, relaxed evenings by the water.
It really felt like summer had arrived early.
Breakfast on Llanbedrog Beach
The warm weather meant lie-ins didn’t stand a chance. Instead, we grabbed a flask of tea, juices and a homemade breakfast and headed down to the beach hut before the day had properly begun. Sitting on Llanbedrog Beach with the sound of the waves and the morning sun shimmering on the water was one of those simple moments that stays with you. Quiet, calm, and effortlessly perfect.
The WNTRR Tractor Run
A real highlight was watching the tractors set off from nearby Crugan Farm for the WNTRR Tractor Run. It was fantastic to see the community come together for something new. The convoy winding through the local roads brought a great atmosphere and a real sense of Llanbedrog spirit.
Art, Cake & Elderflower at Plas Glyn-y-Weddw
We also spent a slower afternoon at Plas Glyn-y-Weddw exploring the Coed Coexist Exhibition 2026. The exhibition was fascinating, focusing on nature, woodland and sustainability. Afterwards came the essential part, lemon meringue pie and elderflower cordial in the café. Culture and cake is always a winning formula.
Paddleboarding into Sunset
Late high tides made Llanbedrog Beach perfect for paddleboarding in the shallow, sheltered waters. Evenings out on the bay were peaceful and unforgettable, especially as the sun dropped behind the horizon. And being able to simply walk down from the park makes it even more special.
Coastal Walk to Pwllheli
We also made the most of the coastal path from Llanbedrog to Pwllheli. It’s a stunning walk with endless sea views and fresh coastal air. Naturally, every good walk deserves a reward, so we picked up freshly baked baguettes, local meats and Welsh cheeses from Spar for lunch on the way back. Simple, fresh, and perfect after a few miles on foot.
Roll on Summer
Half term may be over, but we’re already counting down to summer. We’re especially looking forward to the reopening of the Glyn y Weddw Arms. Having a village pub within walking distance would complete the picture perfectly. From beach breakfasts and paddleboarding to live music, coastal walks, local events and art-filled afternoons, everything is right here in Llanbedrog.
No driving. No stress. Just a beautiful village, a stunning beach, and everything within walking distance. Roll on summer…we’re ready.
Pam rydyn ni’n caru Llanbedrog
Fe wnaeth yr hanner tymor ein hatgoffa ni pam yn union rydyn ni’n caru Llanbedrog gymaint.
Roedd yr haul yn tywynnu, y pentref yn llawn bwrlwm, ac ar ben y cyfan, wnaethon ni braidd defnyddio’r car. O Barc Tai Gwyliau Tremfan, mae popeth ar garreg eich drws. Mae Neuadd Tremfan gerllaw, mae Traeth Llanbedrog ychydig i lawr y bryn, ac mae popeth arall wedi’i gysylltu gan lwybrau troed, palmentydd a llwybrau arfordirol.
A’r peth gorau? Doedd dim rhaid cerdded yn bell i fwynhau popeth. O fwyta bwyd da wrth edrych dros Fae Ceredigion, i frecwast ar y traeth, padfyrddio, cerddoriaeth fyw a theithiau ar hyd yr arfordir, mae gan Lanbedrog bopeth heb fod angen gyrru mewn car i unman. Gallech chi bron â’i alw’n fywyd cynaliadwy … er, ar ôl y gacen, yr hufen iâ a’r barbeciws, fe anghofiwn ni am hynny.
Cinio Drws Nesaf yn Neuadd Tremfan
Un o’r uchafbwyntiau oedd cinio yn Neuadd Tremfan, nid nepell o’r parc. Nid yn aml y cewch chi fwyd o safon mor uchel yn union ar garreg eich drws. Mae yno seigiau wedi’u paratoi’n hyfryd a golygfeydd eang o Fae Ceredigion. Dyma’r lle perffaith i arafu a mwynhau prynhawn heulog. Wrth eistedd y tu allan yn gwylio’r môr sy’n newid o hyd, mae’n hawdd colli golwg ar amser. Mae’r ffaith y gallwch chi gerdded draw o’ch tŷ gwyliau yn ei wneud yn brofiad hyd yn oed yn well. Rydyn ni’n ffodus iawn o gael Neuadd Tremfan mor agos aton ni.
Barbeciws, Cerddoriaeth Fyw a Nosweithiau wrth y Dŵr
Wrth i’r haul fachlud, mi wnaethon ni fynd am dro i lawr y bryn i’r Aqua Beach Bar uwchlaw Traeth Llanbedrog. Mae barbeciws, cerddoriaeth fyw a golygfeydd o’r môr yn gyfuniad rhagorol. Yn ystod yr hanner tymor, fe wnaethon ni yn benodol fwynhau setiau gan Jukebox Dave a Dominic Holmes, a greodd y trac sain perffaith ar gyfer nosweithiau hir, hamddenol wrth y dŵr.
Roedd hi wir yn teimlo fel petai’r haf wedi cyrraedd yn gynnar.
Brecwast ar Draeth Llanbedrog
Doedd hi ddim yn bosib cysgu tan hwyr yn y tywydd cynnes. Yn lle hynny, mi aethon ni i lawr i gaban y traeth gyda fflasg o de, sudd a brecwast cartref cyn i’r diwrnod ddechrau’n iawn. Roedd eistedd ar Draeth Llanbedrog gyda sŵn y tonnau a haul y bore yn tywynnu ar y dŵr yn un o’r eiliadau syml hynny sy’n aros gyda chi. Ymlaciol, tawel, ac yn ddiymdrech o berffaith.
Taith Dractorau’r WNTRR
Gwir uchafbwynt oedd gwylio’r tractorau yn cychwyn ar eu taith o Fferm Crugan gerllaw ar gyfer Taith Dractorau’r WNTRR. Roedd hi’n wych gweld cymaint o’r gymuned yn dod at ei gilydd ar gyfer rhywbeth newydd. Wrth i’r confoi wneud ei ffordd ar hyd ffyrdd yr ardal, roedd yna awyrgylch da ac ymdeimlad o gymuned yn Llanbedrog.
Celf, Teisen a Blodau’r Ysgaw ym Mhlas Glyn y Weddw
Treuliwyd prynhawn arafach ym Mhlas Glyn y Weddw yn archwilio Arddangosfa Coed Coexist 2026. Roedd yr arddangosfa yn un hynod ddiddorol, gan ganolbwyntio ar fyd natur, coetir a chynaliadwyedd. Ond roedd rhaid cofio’r peth pwysicaf, sef darn o bei meringue lemon a chordial blodau’r ysgaw yn y caffi. Mae diwylliant a chacen bob amser yn fformiwla da.
Padlfyrddio Tua’r Machlud
Roedd y llanw uchel hwyr ar Draeth Llanbedrog yn ei gwneud hi’n berffaith ar gyfer padlfyrddio yn y dŵr bas, cysgodol. Cafwyd nosweithiau heddychlon a chofiadwy allan yn y bae, yn enwedig wrth i’r haul suddo i’r gorwel. Ac mae gallu cerdded i lawr o’r parc yn ei wneud yn brofiad hyd yn oed yn fwy arbennig.
Cerdded i Bwllheli ar hyd yr Arfordir
Mi wnaethon ni hefyd fanteisio ar lwybr yr arfordir o Lanbedrog i Bwllheli. Mae’n daith syfrdanol lle cewch chi fwynhau golygfeydd diddiwedd o’r môr ac awyr iach yr arfordir. Wrth gwrs, mae pob taith gerdded dda yn haeddu gwobr, felly mi wnaethon ni brynu baguettes ffres wedi’u pobi, cigoedd lleol a chawsiau Cymreig o Spar i ginio ar y ffordd yn ôl. Syml, ffres ac yn berffaith ar ôl teithio rhai milltiroedd ar droed.
Ymlaen i’r Haf
Efallai fod y gwyliau hanner tymor drosodd, ond rydyn ni eisoes yn barod am yr haf. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arbennig at ailagoriad Tafarn Glyn y Weddw. Byddai cael tafarn bentref nid nepell o’r parc yn goron ar y cyfan. O frecwast ar y traeth a phadlfyrddio i gerddoriaeth fyw, teithiau ar hyd yr arfordir, digwyddiadau lleol a phrynhawniau llawn celf, mae yma bopeth yn Llanbedrog.
Dim gyrru car. Dim straen. Dim ond pentref hardd, traeth godidog, a phopeth o fewn pellter cerdded. Prysurdeb yr haf … rydyn ni’n barod amdano!




