When Tremfan Lodge Park in Llanbedrog closes for the winter, the park may appear peaceful, but the closed season is one of the most important times of the year. These closed weeks allow us to focus on maintaining the park, caring for the landscape, and planning ahead so everything is ready for reopening on 1st March.
Here’s a look at what happens behind the scenes at our lodge park on the Llŷn Peninsula during the closed season.
Supporting the Environment
Set within the coastal landscape of Llanbedrog, Tremfan Lodge Park benefits from fresh sea air and open surroundings, but winter weather brings its own challenges.
Throughout the closed weeks, fallen leaves are regularly cleared from paths and plots to keep areas tidy and help with drainage. Shrubs and plants are protected from frost where needed, and cutting back takes place to encourage healthy growth in spring. Hedges are shaped, borders are tidied, and green spaces are carefully managed so the park wakes up looking its best when the season begins again. Every season is a learning curve and we always refer to the RHS and local garden centres for advice.
Planting completed in the autumn will also start to come through as the weather improves, adding fresh colour and structure to the park as the new season approaches.
Ongoing Park Maintenance
With the park closed to visitors, the winter months provide the perfect opportunity to carry out essential maintenance.
Signage across Tremfan Lodge Park is inspected, repaired, and refreshed where needed to ensure everything is clear and well-presented for the new season. Paths, fencing, and shared areas are checked for any wear and tear from the previous year, allowing us to address small issues before reopening.
These details help maintain the calm, well-cared-for feel that owners and visitors expect from a quality lodge park in Llanbedrog.
Behind-the-Scenes Planning for the Season Ahead
The closed season is also a time for planning, preparation and sustainability planning. We take the opportunity to review the year just gone and look ahead to the coming season.
From organising works and deliveries to planning improvements across the park, these closed weeks allow us to take a thoughtful and measured approach. It is all about ensuring Tremfan Lodge Park continues to provide a welcoming and well-maintained base for enjoying Llanbedrog and the surrounding area.
New Season, New Opportunities
As we prepare to reopen, we also have some changes coming to the park.
This season, three lodges will be coming off Tremfan Lodge Park, and we will be introducing one brand-new lodge. As a result, two plots will become available.
This presents a rare opportunity to choose your own lodge and create a personal escape in one of the most desirable coastal villages. You can choose something modern and light or a more traditional, cosy design; the choice is yours.
Beth sy’n digwydd ym Mharc Tai Gwyliau Tremfan pan fydd ynghau?
Pan fydd Parc Tai Gwyliau Tremfan yn Llanbedrog yn cau am y gaeaf, mae’r lle’n ymddangos yn heddychlon, ond dyma un o adegau pwysicaf y flwyddyn. Mae’r wythnosau hyn yn caniatáu inni ganolbwyntio ar waith cynnal a chadw yn y parc, i ofalu am y dirwedd, ac i flaengynllunio fel bod popeth yn barod i’r parc ailagor ar 1 Mawrth.
Dyma gip ar yr hyn sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni yn ein parc ar Benrhyn Llŷn yn ystod wythnosau tawel y gaeaf.
Cefnogi’r amgylchedd
Mae Parc Tai Gwyliau Tremfan, ger yr arfordir yn Llanbedrog, yn elwa o awyr iach y môr a mannau agored, ond daw tywydd y gaeaf â’i heriau ei hun.
Drwy gydol yr wythnosau pan mae’r parc ynghau, caiff dail sydd wedi disgyn eu clirio o’r llwybrau a’r lleiniau (plots) i gadw pobman yn daclus ac i helpu dŵr i lifo. Diogelir llwyni a phlanhigion rhag rhew lle bo angen, a thorrir rhai a’i gwtogi i annog twf iach yn y gwanwyn. Caiff gwrychoedd eu siapio, ffiniau eu tacluso, a mannau gwyrdd eu rheoli’n ofalus fel bod y parc yn edrych ar ei orau pan fydd y tymor yn ailddechrau. Mae rhywbeth i’w ddysgu ym mhob tymor ac rydyn ni bob amser yn dibynnu ar yr RHS <https://www.rhs.org.uk/advice/advice-search> a’r canolfannau garddio lleol am gyngor.
Bydd unrhyw blanhigion a blannwyd yn yr hydref yn dechrau ymddangos wrth i’r tywydd wella, gan ychwanegu lliw a strwythur ffres i’r parc wrth i’r tymor newydd agosáu.
Cynnal a chadw parhaus
Gyda’r parc ynghau i ymwelwyr, mae misoedd y gaeaf yn cynnig y cyfle perffaith i gynnal gwaith cynnal a chadw hollbwysig.
Caiff arwyddion ledled Parc Tai Gwyliau Tremfan eu harchwilio, eu trwsio a’u hadnewyddu lle bo angen er mwyn sicrhau bod popeth yn glir ac ar ei orau ar gyfer y tymor newydd. Caiff llwybrau, ffensys a’r mannau a rennir eu trwsio a thacluso o unrhyw draul o’r flwyddyn flaenorol, gan ganiatáu inni fynd i’r afael â mân broblemau cyn i’r parc ailagor.
Mae’r manylion hyn yn helpu i gynnal y parc fel lle heddychlon sy’n cael ei ofalu amdano – awyrgylch y mae perchnogion ac ymwelwyr yn ei ddisgwyl gan barc tai gwyliau o safon yn Llanbedrog.
Cynllunio y tu ôl i’r llenni ar gyfer y tymor sydd i ddod
Mae’r adeg pan fyddwn ni ynghau hefyd yn amser i gynllunio, paratoi, a chynllunio mentrau sy’n sicrhau cynaliadwyedd. Rydyn ni’n manteisio ar y cyfle i adolygu’r flwyddyn a fu ac edrych ymlaen at y tymor sydd i ddod.
O drefnu gwaith a danfoniadau (deliveries) i gynllunio gwelliannau ledled y parc, mae’r wythnosau hyn yn caniatáu inni bwyso a mesur. Mae’r cyfan yn ymwneud â sicrhau bod Parc Tai Gwyliau Tremfan yn parhau i gynnig lle croesawgar a chynaliadwy i bobl allu ei ddefnyddio fel canolfan i fwynhau Llanbedrog a’r cyffiniau.
Tymor newydd, cyfleoedd newydd
Wrth i ni baratoi i ailagor, mae gennym hefyd ambell newid ar y gweill i’r parc.
Yn ystod y tymor, bydd tri thŷ gwyliau yn cael eu tynnu o Barc Tai Gwyliau Tremfan, a byddwn yn cyflwyno un tŷ gwyliau newydd sbon. O ganlyniad, bydd dwy lain ar gael.
Dyma gyfle prin i ddewis eich tŷ gwyliau eich hun a chreu dihangfa bersonol yn un o’r pentrefi arfordirol mwyaf dymunol. Gallwch ddewis rhywbeth modern a golau, neu ddyluniad mwy traddodiadol, clyd. Chi sy’n dewis!




