This Christmas, Tremfan Lodge Park is raising a glass to our wonderful lodge owners, and to a more sustainable future. Each lodge will receive a special gift: a bottle of Sea Change Wine, a brand that embodies the same values of care, responsibility, and respect for the natural world that guide everything we do here.
A Toast to Our Shared Planet
Our stunning coastal surroundings remind us daily of how precious, and fragile, our environment truly is. From energy-efficient lodges and carefully managed grounds to our commitment to nurturing local wildlife, sustainability is at the heart of Tremfan Lodge Park. We believe every small step toward protecting our planet makes a difference, and we’re proud to support brands that share that belief.
That’s why we’ve partnered with Sea Change Wine this Christmas. Their philosophy aligns beautifully with ours: great experiences should never come at the expense of the environment. Watch the video of their story here.
About Sea Change Wine
Sea Change is more than just exceptional wine. The brand was born from a desire to enjoy high-quality wine while making a positive impact on our oceans and planet. Every bottle helps fund marine conservation projects worldwide, supporting organisations that work tirelessly to reduce plastic pollution and protect sea life. Their minimal-packaging approach says it all: lightweight bottles, recyclable paper labels, and no unnecessary plastic. Small changes that add up to a big difference.
Explore the Sea Change Collection
Sea Change offers a thoughtfully curated range of red, white, rosé and sparkling wines, many of which are organic, vegan friendly and alcohol free. Whether you prefer a rich, comforting red by the fire, a crisp white with a festive meal, a delicate rosé for lighter moments, or bubbles to celebrate Christmas morning, Sea Change has a sustainable choice for every occasion. Their wines also lend themselves beautifully to simple festive cocktails, adding an extra touch of seasonal cheer.
A Sustainable Christmas Tipple
Next time you reach for a festive drink, whether at Christmas or in the New Year, think about the small changes you can make to support the planet. Choosing brands like Sea Change Wine, which combine exceptional taste with environmental responsibility, is a simple way to enjoy the season while helping protect our oceans, wildlife and natural surroundings. Every thoughtful choice count, and together they can make a real difference.
Looking Ahead
As 2026 approaches, we’ll continue to strengthen our sustainability initiatives across Tremfan Lodge Park, from eco-friendly maintenance and wildlife conservation to supporting local producers and community projects. We’re proud to be involved with initiatives such as the David Bellamy Pledge for Nature, reflecting our ongoing commitment to nurturing wildlife and caring for the environment in everything we do.
Here’s to our Park. Here’s to Sea Change. And here’s to a greener, brighter Christmas at Tremfan Lodge Park.
Codwch Wydraid i Newid dros y Nadolig
Yn ystod y Nadolig eleni, mae Parc Tremfan Lodge yn codi gwydraid i berchnogion ein lletyau gwych, ac i ddyfodol mwy cynaliadwy. Bydd pob llety yn cael anrheg arbennig: potel o win Sea Change, brand sy’n ymgorffori’r un gwerthoedd o ofal, cyfrifoldeb a pharch at y byd naturiol sy’n llywio popeth a wnawn yma.
Iechyd Da i’n Planed
Mae’r dirwedd arfordirol hardd o’n cwmpas yn ein hatgoffa yn ddyddiol o ba mor werthfawr a bregus yw ein hamgylchedd mewn gwirionedd. O letyau (lodges) sy’n effeithlon o ran ynni a thiroedd sy’n cael eu rheoli’n ofalus, i’n hymrwymiad i feithrin ein bywyd gwyllt lleol, mae cynaliadwyedd wrth galon yr hyn a wnawn ym Mharc Tremfan Lodge. Credwn fod pob cam bach tuag at amddiffyn ein planed yn gwneud gwahaniaeth, ac rydyn ni’n falch o gefnogi brandiau sy’n rhannu’r gred honno.
Dyna pam rydyn ni wedi partneru â Sea Change Wine dros y Nadolig. Mae athroniaeth y brand yn cyd-fynd yn hyfryd â’n hathroniaeth ni: ddylai profiadau gwych byth ddod ar draul yr amgylchedd. Gwyliwch y fideo o stori’r brand yma.
Sea Change Wine
Mae Sea Change Wine yn fwy na dim ond gwin ardderchog. Ganwyd y brand o awydd i fwynhau gwin o safon wrth gael effaith gadarnhaol ar ein cefnforoedd a’n planed. Mae pob potel yn helpu i ariannu prosiectau cadwraeth forol ledled y byd, gan gefnogi sefydliadau sy’n gweithio’n ddiflino i leihau llygredd plastig a diogelu bywyd y môr. Mae’r cyn lleied â phosibl o ddeunydd pecynnu y mae’r brand yn ei ddefnyddio yn dweud y cyfan: poteli ysgafn, labeli papur ailgylchadwy, a dim plastig diangen. Dyma newidiadau bach sy’n gwneud gwahaniaeth mawr.
Dewch i weld Casgliad Sea Change
Mae Sea Change yn cynnig casgliad ystod a guradwyd yn feddylgar o winoedd coch, gwyn, rhosliw a phefriog, ac mae llawer ohonyn nhw’n winoedd organig, cyfeillgar i feganiaid, a rhydd o alcohol. P’un a oes yn well gennych chi win coch cyfoethog, cysurus wrth y tân, gwin gwyn ffres gyda phryd Nadoligaidd, gwin rhosliw cain ar gyfer yr eiliadau ysgafnach hynny, neu win pefriog i ddathlu bore’r Nadolig, mae gan Sea Change ddewis cynaliadwy ar gyfer pob achlysur. Mae gwinoedd Sea Change hefyd yn addas iawn ar gyfer coctels Nadoligaidd syml, gan ychwanegu rhywbeth ychwanegol at hwyl yr Ŵyl.
Diod Nadoligaidd Gynaliadwy
Y tro nesaf y byddwch chi’n estyn am ddiod Nadoligaidd, unai ar ddydd Nadolig neu Nos Galan, meddyliwch am y newidiadau bach y gallwch chi eu gwneud i gefnogi’r blaned. Mae dewis brandiau fel Sea Change Wine, sy’n cyfuno blas eithriadol â chyfrifoldeb dros yr amgylchedd, yn ffordd syml o fwynhau’r Ŵyl wrth helpu i ddiogelu ein cefnforoedd, bywyd gwyllt a’r byd o’n cwmpas. Mae pob dewis meddylgar yn cyfrif, a gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth go iawn.
Edrych Ymlaen
Wrth i 2026 agosáu, byddwn yn parhau i gryfhau ein mentrau cynaliadwyedd ledled Parc Tremfan Lodge, o gynnal a chadw ecogyfeillgar a chadwraeth bywyd gwyllt, i gefnogi cynhyrchwyr lleol a phrosiectau cymunedol. Rydyn ni’n falch o fod yn rhan o fentrau fel Addewid i Fyd Natur David Bellamy, sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i feithrin bywyd gwyllt a gofalu am yr amgylchedd ym mhopeth a wnawn.
Iechyd da i’n Parc. Iechyd da i Sea Change. A dyma ddymuno Nadolig gwyrddach a disgleiriach ym Mharc Tremfan Lodge.




