We are proud to announce that we have completed the Blooming Marvellous Pollinator Patch challenge, an inspiring initiative designed to help bees, butterflies and other pollinating insects survive and thrive.
Pollinators are vital to the health of our countryside, but they face growing challenges due to habitat loss and climate change. The challenge, launched by the David Bellamy Blooming Marvellous Pledge for Nature 2025, in association with the British Holiday & Home Parks Association (BH&HPA), encourages parks to create vibrant, nectar-rich areas that provide food across the seasons and support the life cycles of these essential insects.
A Thoughtful Transformation of Space
At the beginning of 2025, while the park was closed for the season, we took the opportunity to improve our landscape with both lodge owners and nature in mind. We created some new parking spaces within our paddock area, and rather than simply using up green space, we decided to give back to wildlife by creating a brand new pollinator patch alongside it.
This newly planted border measures approximately 35 ft by 4 ft and has been designed to support pollinators throughout the year. Using resources like the RHS Plants for Pollinators guide, we carefully selected species that would bloom across all seasons, ensuring a steady source of nectar and pollen from spring through to winter.
What’s in Our Pollinator Patch?
Bordering an existing hedge, our patch features a diverse mix of pollinator-friendly plants. We’ve planted a range of clematis, including Clematis Montana Grandiflora, Clematis Montana Rubens and the UK native Clematis Vitalba (also known as ‘Traveller’s Joy’ or ‘Old Man’s Beard’). These flowering climbers provide essential nectar for insects while enhancing the park’s natural beauty across the seasons.
We’ve also introduced a selection of Spiraea species; Spiraea Snowmound, Spiraea Goldflame, Spiraea Golden Princess, Spiraea Gold Mound, and the UK native Spiraea Alba White Meadowsweet. These shrubs are particularly attractive to bees, butterflies, and even hummingbird moths, while being low-maintenance and great for year round structure.
To complement the planting and add seasonal variety, we’ve included ornamental alliums. With their striking globe-shaped flowers, alliums are as appealing to people as they are to bees, offering early-season nectar and bold visual appeal.
Welcoming Wildlife with Bug Hotels
To further support the pollinator patch and provide shelter for beneficial insects, we also took the opportunity to refurbish our existing bug hotel. In addition, we’ve installed two brand new bug hotels nearby, offering safe nesting and overwintering spaces for solitary bees, ladybirds, lacewings, and other helpful garden insects.
These small habitats play a big role in maintaining a healthy ecosystem, encouraging biodiversity and creating an inviting environment for nature to thrive.
A Small Patch with a Big Purpose
Our new pollinator patch, and its neighbouring bug hotels, represent our commitment to nature, sustainability, and the wellbeing of our local wildlife. By creating a rich and varied habitat, we’re helping to secure a future for pollinating insects while offering guests a closer connection to the natural world.
Next time you visit Tremfan Lodge Park, be sure to stop by our blooming marvellous pollinator patch, watch the bees buzz, the butterflies flutter, and maybe even spot a few residents of our new bug hotels.
Together, we’re making space for nature, one patch at a time.
Mae si ar led am ein llain beillio…
Rydyn ni’n falch o gyhoeddi ein bod wedi cwblhau her y Blooming Marvellous Pollinator Patch, menter ysbrydoledig sy’n ceisio helpu gwenyn, gloÿnnod byw a phryfed peillio eraill i oroesi a ffynnu.
Mae peillwyr yn hanfodol i iechyd cefn gwlad, ond maen nhw’n wynebu heriau cynyddol yn sgil colli cynefinoedd a newid hinsawdd. Mae’r her, a lansiwyd gan y David Bellamy Blooming Marvellous Pledge for Nature 2025, mewn cydweithrediad â Chymdeithas Parciau Gwyliau a Chartrefi Prydain (BH&HPA), yn annog parciau i greu ardaloedd bywiog, llawn neithdar sy’n cynnig bwyd drwy gydol y tymhorau ac yn cefnogi cylchoedd bywyd y pryfed hanfodol hyn.
Trawsnewidiad meddylgar o’r ardal
Ar ddechrau 2025, tra oedd y parc ynghau am y tymor, mi wnaethon ni fanteisio ar y cyfle i wella ein tirwedd gyda pherchnogion y llety gwyliau a byd natur mewn golwg. Mi wnaethon ni greu rhai mannau parcio newydd yn ein padog, ac yn hytrach na defnyddio’r lle gwyrdd i gyd, mi benderfynon ni roi rhywbeth yn ôl i fywyd gwyllt drwy greu llain beillio newydd sbon ochr yn ochr ag ef.
Mae’r border newydd hwn yn mesur tua 35 troedfedd wrth 4 troedfedd, ac mae wedi’i gynllunio i gynnal peillwyr drwy gydol y flwyddyn. Gan ddefnyddio adnoddau fel canllaw Planhigion i Beillwyr yr RHS, mi wnaethon ni ddewis yn ofalus rywogaethau a fyddai’n blodeuo ym mhob tymor, gan sicrhau ffynhonnell gyson o neithdar a phaill o’r gwanwyn hyd at y gaeaf.
Beth sydd yn ein llain beillio?
Mae’r llain yn ffinio â gwrych ac mae’n cynnwys cymysgedd amrywiol o blanhigion sy’n addas i beillwyr. Rydyn ni wedi plannu amrywiaeth o glematis, gan gynnwys Clematis Montana Grandiflora, Clematis Montana Rubens, a’r Clematis Vitalba brodorol (sydd hefyd yn cael ei alw’n ‘farf yr hen ŵr’). Mae’r planhigion ‘dringo’ blodeuol hyn yn cynnig neithdar hanfodol i bryfed wrth wella harddwch naturiol y parc drwy gydol y tymhorau.
Rydyn ni hefyd wedi cyflwyno detholiad o rywogaethau Spiraea; Spiraea Snowmound, Spiraea Goldflame, Spiraea Golden Princess, Spiraea Gold Mound, a’r Spiraea Alba White Meadowsweet sy’n frodor o’r DU. Mae’r llwyni hyn yn arbennig o ddeniadol i wenyn, gloÿnnod byw, a hyd yn oed gwyfynod sïedn. Maen nhw hefyd yn hawdd i’w cynnal a’u cadw ac yn wych am strwythur drwy gydol y flwyddyn.
I ategu’r planhigion hyn ac i ychwanegu ychydig o amrywiaeth bob tymor, rydyn ni wedi cynnwys garlleg (alliums) addurniadol. Gyda’u blodau trawiadol siâp glôb, mae garlleg yr un mor ddeniadol i bobl ag y maen nhw i wenyn, gan gynnig neithdar yn gynnar yn y tymor a gwledd i’r llygaid.
Croesawu bywyd gwyllt i’n gwestai pryfed
Er mwyn cefnogi’r llain beillio ymhellach a chynnig lloches i bryfed buddiol, mi wnaethon ni hefyd fanteisio ar y cyfle i adnewyddu’r gwesty pryfed sydd gennym eisoes. Rydyn ni hefyd wedi gosod dau westy pryfed newydd sbon gerllaw, sy’n cynnig mannau nythu a gaeafu diogel i wenyn unigol, buchod coch cwta, adenydd siderog, a phryfed defnyddiol eraill yr ardd.
Mae’r cynefinoedd bach hyn yn chwarae rhan bwysig wrth gynnal ecosystem iach, annog bioamrywiaeth a chreu amgylchedd croesawgar i fyd natur ffynnu.
Llain fechan â phwrpas mawr
Mae ein llain beillio newydd, a’i gwestai pryfed gerllaw, yn cynrychioli ein hymrwymiad i fyd natur, cynaliadwyedd, a lles ein bywyd gwyllt lleol.