As October half term and Halloween approach, the Llŷn Peninsula is gearing up for a spooktacular season of fun and frights. Whether you’re a fan of pumpkins, fancy dress, or simply love the cosy autumn atmosphere, there’s plenty happening in and around Llanbedrog to make your half term a real treat. Forget the long drives and busy crowds, this year, all the Halloween magic you could want is right on your doorstep.
Tremfan Hall – The House on the Hill This Halloween
Our neighbours at Tremfan Hall are transforming their beautiful venue into The House on the Hill this Halloween. On Friday, October 31st, they’ll be offering a hauntingly delicious dining experience, with a family-friendly lunch sitting during the day and a chilling adults‐only dinner in the evening. Expect a spooky-themed menu, eerie décor, and seasonal dishes that will send shivers down your spine. It’s the perfect spot for either a festive family meal or a sophisticated Halloween night out. To book your place, simply contact Tremfan Hall directly for full details.
Crugan Farm – Pumpkin Picking and Autumn Fun
For something a little more down to earth, Crugan Farm, just a short walk from Tremfan Lodge Park, is opening its Pumpkin Patch throughout the week leading up to Halloween. Visitors can wander through the fields to find their perfect pumpkin, whether for carving or decorating, and enjoy the simple pleasures of farm life. There are plenty of photo opportunities, so bring your camera for those autumnal family snaps, and don’t forget to say hello to the friendly pigs and horses while you’re there. The on-site café will be serving tea, coffee, and cake, making it a lovely spot for an afternoon outing. Dogs on leads are welcome, and with parking available for a small fee, it’s a relaxed and wholesome way to get into the Halloween spirit.
Abersoch Garden Centre – Halloween at The Tipis
Just a short drive or a pleasant walk away, Abersoch Garden Centre is hosting Halloween at The Tipis, a brand-new series of events this October. Midweek festivities include a daytime Kids’ Halloween Party, where little ones can enjoy cookie decorating, apple bobbing, pumpkin painting, and a range of fun games like pumpkin bowling and witch hat ring toss. There’s even a storytime session and a sandwich and drink included with every child’s ticket, making it a brilliant family-friendly event.
Then, on Halloween night itself, the Tipis come alive with a lively celebration featuring fancy dress contests for both kids and adults, delicious BBQ food, live music, and a bar serving spooky cocktails and mocktails. It’s a night not to be missed, but tickets are limited, so be sure to book early before they vanish!
Aqua – Aqua Turns Orange!
Over by the beach, Aqua is turning orange for one night only to celebrate Halloween in style. Their ever-popular Fish and Chip Night will take on a spooky twist, with music, dancing, and themed treats for both adults and children. Kids can tuck into free hotdogs or fish fingers and fries with every adult fish and chips meal purchased, while grown-ups can sip on creepy cocktails like Vampire-Kissed Prosecco. There’ll even be spooky jelly shots for the little ones and a prize for the best costume, so fancy dress is highly encouraged!
Whether you’re looking for a frightfully good meal at Tremfan Hall, a fun-filled pumpkin-picking adventure at Crugan Farm, or a lively night out at Abersoch Garden Centre and Aqua, there’s something for everyone in and around Llanbedrog this October. All of these Halloween happenings are just a stone’s throw from Tremfan Lodge Park, making it the perfect place for a hauntingly good half term.
Digwyddiadau Arswydus yn Llanbedrog: Hanner Tymor a Chalan Gaeaf Iasol o Dda!
Wrth i hanner tymor mis Hydref a Chalan Gaeaf nesáu, mae Penrhyn Llŷn yn paratoi am dymor arswydus o hwyl a dychryn. P’un a ydych chi’n hoff o bwmpenni, gwisgoedd ffansi neu, yn syml, yn caru awyrgylch glyd yr hydref, mae digon yn digwydd yn Llanbedrog a’r cyffiniau i wneud eich hanner tymor yn wledd go iawn. Anghofiwch y teithiau hir a’r torfeydd prysur; eleni, mae holl hud a lledrith Calan Gaeaf ar garreg eich drws.
Neuadd Tremfan –Y Tŷ ar y Bryn
Mae ein cymdogion yn Neuadd Tremfan yn trawsnewid eu lleoliad hardd yn ‘Dŷ ar y Bryn’ yn ystod Calan Gaeaf eleni. Ddydd Gwener, 31 Hydref, byddan nhw’n cynnig profiad bwyta hynod flasus, gyda chinio sy’n addas i deuluoedd yn ystod y dydd a swper iasol i oedolion yn unig gyda’r nos. Byddwch yn barod am fwydlen arswydus, décor brawychus, a seigiau tymhorol a fydd yn anfon ias i lawr eich cefn. Dyma’r lle perffaith am bryd teuluol â thema neu noson allan soffistigedig yn ystod Calan Gaeaf. I fwcio eich lle, cysylltwch â Neuadd Tremfan yn uniongyrchol am fanylion llawn.
Fferm Crugan – Casglu Pwmpenni a Hwyl yr Hydref
Am rywbeth ychydig yn fwy daearol, mae Fferm Crugan, nid nepell o Barc Tremfan Lodge, yn agor ei Phatsh Pwmpenni drwy gydol yr wythnos cyn Calan Gaeaf. Gall ymwelwyr grwydro’r caeau i ddod o hyd i’w pwmpen berffaith, i’w cerfio neu eu haddurno, a mwynhau pleserau syml bywyd y fferm. Mae digon o gyfleoedd i dynnu lluniau, felly dewch â’ch camera i dynnu llun hydrefol o’r teulu, a pheidiwch ag anghofio dweud helô wrth y moch a’r ceffylau cyfeillgar tra byddwch chi yno. Bydd y caffi ar y safle yn gweini te, coffi a chacennau, gan ei wneud yn lle hyfryd am brynhawn allan. Mae croeso i gŵn ar dennyn, a chyda pharcio ar gael am ffi fechan, mae’n ffordd hamddenol ac iachus o fynd i hwyl Calan Gaeaf.
Canolfan Arddio Abersoch – Calan Gaeaf yn y Tipis
Heb fod ymhell i ffwrdd mewn car neu ar droed, mae Canolfan Arddio Abersoch yn cynnal Calan Gaeaf yn y Tipis, cyfres newydd sbon o ddigwyddiadau ym mis Hydref. Mae’r dathliadau canol wythnos yn cynnwys Parti Calan Gaeaf i Blant yn ystod y dydd, lle gall y plantos fwynhau gweithgareddau addurno cwcis, twco afalau, peintio pwmpen, ac amrywiaeth o gemau hwyliog fel bowlio pwmpen a thaflu cylchoedd at het wrach. Mae hyd yn oed sesiwn amser stori a brechdan a diod wedi’u cynnwys gyda thocyn pob plentyn, gan ei wneud yn ddigwyddiad gwych sy’n addas i deuluoedd.
Yna, ar Noswyl Calan Gaeaf ei hun, daw’r Tipis yn fyw gyda dathliad bywiog sy’n cynnwys cystadlaethau gwisg ffansi i blant ac oedolion, bwyd barbeciw blasus, cerddoriaeth fyw, a bar yn gweini coctels a moctels arswydus. Dyma noson na ddylid ei methu, ond mae tocynnau’n brin, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu’n gynnar cyn iddyn nhw ddiflannu!
Aqua – Aqua yn Troi’n Oren!
Draw wrth y traeth, mae Aqua yn troi’n oren am un noson yn unig i ddathlu Calan Gaeaf mewn steil. Bydd eu Noson Pysgod a Sglodion boblogaidd yn cymryd tro arswydus, gyda cherddoriaeth, dawnsio a danteithion Calen Gaeaf i oedolion a phlant. Gall plant fwynhau cŵn poeth neu fysedd pysgod a sglodion am ddim gyda phob pryd pysgod a sglodion a brynir i oedolion, tra gall oedolion sipian coctels brawychus fel Prosecco’r Fampirod. Bydd yna hyd yn oed siotiau jeli brawychus i’r rhai bach a gwobr am y wisg orau, felly anogir gwisgoedd ffansi yn fawr!
Pa un ai ydych chi’n chwilio am bryd arswydus o dda yn Neuadd Tremfan, antur casglu pwmpenni llawn hwyl yn Fferm Crugan, neu noson allan fywiog yng Nghanolfan Arddio Abersoch ac Aqua, mae rhywbeth i bawb yn Llanbedrog a’r cyffiniau ym mis Hydref. Mae’r holl ddigwyddiadau Calan Gaeaf hyn ond tafliad carreg o Barc Tremfan Lodge, gan ei wneud yn lle perffaith ar gyfer hanner tymor arswydus.




