Tremfan Hall - Fine Dining

Er ei fod yn bentref arfordirol bychan hardd mae Llanbedrog yn cynnig rhai o’r opsiynau bwyta gorau ym Mhen Llŷn.

Mae ein cymdogion agos yn Neuadd Tremfan yn cynnig profiad bwyta gwych mewn lleoliad coeth. Mwynhewch aperitif ar y patio blaen gyda golygfeydd panoramig o’r môr, yna ewch i mewn i’r neuadd fawreddog gyda’i haddurniadau moethus a mwynhewch y fwydlen a la carte ddeniadol. Mae cinio dydd Sul yn brofiad nodedig fel y mae’r prydau tecawê o’r Bistro to Go a ddatblygwyd yn ystod y cyfnod clo cyntaf.

Mae tafarndai addas i deuluoedd Glyn y Weddw a’r Ship o fewn ychydig funudau ar droed. Mae’r ddwy dafarn addas i deuluoedd yn cynnig croeso cynnes, bwyd cartref gwych, cwrw lleol, rhestrau gwin rhagorol a gerddi cwrw gydag ardaloedd chwarae awyr agored i blant. Y tafarndai yma yn Llanbedrog yw calon y gymuned mewn gwirionedd felly cadwch lygad ar dudalennau Facebook y tafarndai a Gwybodaeth Llanbedrog am yr holl ddigwyddiadau diweddaraf a nosweithiau gyda bwydlen arbennig.  Nid yw nosweithiau pastai a stêc byth yn mynd allan o ffasiwn!

Ewch i lawr y pentref yn nes at y traeth ac mae rhagor o fwyd arbennig yn y Caffi yn Oriel Plas Glyn y Weddw yn aros amdanoch chi. Mae’r caffi enwog yn Oriel Gelf drawiadol Plas Glyn y Weddw yn cynnig brecwastau a chiniawau gwych y cyfan wedi’u gwneud yn ffres a’u cyflwyno’n hyfryd. Yn yr haf eisteddwch y tu allan ar y lawnt neu pan fydd hi’n oerach ewch i mewn i’r ystafell wydr hardd. Lle bynnag y byddwch yn eistedd a beth bynnag yw’r tymor, mae’r golygfeydd o’r môr a’r pentir yn cyd-fynd yn berffaith â’r fwydlen leol wreiddiol. Uchafbwyntiau’r caffi yw’r cacennau cartref. Mae’n anodd gwrthod y cacennau aml-haenog, cyfoethog, melys, gludiog, llawn ffrwythau a’r sgons wedi’u pobi’n ffres.

Yn swatio wrth fynedfa Traeth Llanbedrog yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol mae Bar Traeth Llanbedrog. Mae’r patio agored, ardal fwyta dan do gyda gwresogyddion a bar uchel i gyd yn mwynhau golygfeydd ysblennydd o’r traeth, y pentir a’r môr; lle perffaith i wylio’r byd yn mynd heibio ym mhob tymor. Mae’n anodd curo’r lleoliad heb ei ail hwn ar gyfer mwynhau bwyd cartref, gan gynnwys brecwast, cinio, prydau min nos neu ddim ond diod fach sydyn. Mae Bar Traeth Llanbedrog hefyd yn cynnig gwasanaeth tecawê a pharlwr hufen iâ fel y gallwch fynd yn ôl i’r traeth yn syth! Cadwch lygad ar dudalen Facebook Bar Traeth Llanbedrog am yr holl amseroedd agor diweddaraf a chynigion arbennig y tymor.

Felly, os bydd arnoch awydd coffi cyflym, brecwast mawr, cinio hir, te prynhawn neu bryd ar gyfer achlysur arbennig, rydym ni’n meddwl o ddifri bod gan Lanbedrog y cyfan.