Aerial view of Llanbedrog

Mae Pen Llŷn yn denu amrywiaeth o ymwelwyr a phobl ar eu gwyliau, ac mae pob un ohonynt yn chwilio am brofiadau gwahanol, o chwaraeon dŵr llawn adrenalin i arddangosfeydd celf, o redeg marathon i gael hwyl ar y traeth gyda’r teulu. Mae cymaint i’w wneud ym Mhen Llŷn a gallwch gael gwybodaeth gynhwysfawr yn Abersoch Lifeabersoch.co.uk a Croeso Cymru. Yma, yn Llanbedrog, mae detholiad bach ond gwych o atyniadau a gweithgareddau ar garreg y drws.

Canolfan y Celfyddydau a Chaffi Oriel Plas Glyn y Weddw

Mae Canolfan Gelfyddydau a Chaffi Oriel Plas Glyn y Weddw yn Blasty Gothig Fictoraidd Rhestredig Gradd II wedi’i leoli o dan Bentir Llanbedrog. Gyda thiroedd ysblennydd a golygfeydd di-dor o’r môr ar draws y lawnt o flaen y plas tuag at Fae Ceredigion, mae hwn yn drysor o le yn Llanbedrog. Mae’r plas, a adeiladwyd yn 1857, gyda’i bensaernïaeth a’i naws wreiddiol, yn gartref i raglen fodern o arddangosfeydd celf, cyngherddau, sgyrsiau a gweithdai ynghyd â chaffi a siop enwog gyda dewis o anrhegion celf a nwyddau cartref o Gymru. Y tu allan, mae’r lawnt yn lle gwych i ymlacio i fwynhau te prynhawn ac mae’r amffitheatr awyr agored yn cael ei ddefnyddio i gynnal dramâu a chyngherddau o dan yr haul a’r sêr. Gallwch grwydro drwy’r coetir cyfagos, ac os ydych chi wedi cymryd at y lle hwn gymaint â ni, gallwch aros yn y bythynnod gwyliau ar y safle neu hyd yn oed gynnal eich priodas neu ddigwyddiad preifat yn yr adeilad trawiadol hwn a’i leoliad godidog.

Eglwys a Neuadd Eglwys Sant Pedrog

Mae Eglwys Sant Pedrog ar safle hyfryd yn rhan isaf Llanbedrog gyda nant hardd o’i blaen a mynwent daclus o’i hamgylch. Mae’r adeilad hwn sy’n dyddio’n ôl i’r 13eg ganrif,  wedi bod yn ganolog i’r pentref a’r gymuned ac mae’n parhau i chwarae rhan ganolog ym mywyd y pentref. Mae’r Hybarch Andrew Carroll Jones yn cynnig croeso cynnes i bawb gan gynnwys ei gynulleidfa ‘dymhorol’ sy’n dychwelyd bob blwyddyn. Mae’r Eglwys yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau a chynhelir Ffair y Pentref ym mis Gorffennaf, sy’n uchafbwynt cymunedol blynyddol. Mae Neuadd yr Eglwys gerllaw a chynhelir nifer o weithgareddau ynddi’n rheolaidd gan gynnwys ioga, urdd gwau a gwnïo, grŵp celf a mwy.

Gweithgareddau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar Draeth Llanbedrog

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cymryd rhan weithredol ym mherchnogaeth Traeth Llanbedrog. Gall plant o bob oed fwynhau pecyn cefn o weithgareddau o’r caban ar y maes parcio a chwblhau cyfres o weithgareddau hwyliog a heriol ar y traeth a’r cyffiniau. Mae yna hefyd lwybr cerdded, gweithdai sy’n cael eu cynnal ar y traeth drwy gydol yr haf a llawer o anturiaethau i ymuno â nhw gan gynnwys  ’50 o bethau i’w gwneud cyn i chi fod yn 11¾’.

Ysgol Saethu Bob Valentine

Mae Ysgol Saethu Bob Valentine sydd wedi’i lleoli yn Wern Newydd yn Llanbedrog, yn cynnig hyfforddiant a chyfarwyddyd gwych i ddechreuwyr yn ogystal â saethwyr profiadol. Gyda dros 30 mlynedd o brofiad cewch brofiad gwych o saethu colomennod clai, hyfforddiant defnyddio gwn, cystadleuaeth colomennod clai, gemau efelychiedig, saethyddiaeth a diwrnodau grwpiau a chorfforaethol difyr dros ben.

Llanbed-Rocks

Yn ystod y cyfnod clo Covid-19 cyntaf dechreuodd Llanbed-Rocks fel rhywbeth i’r gymuned ei wneud ond mae bellach wedi troi’n weithgarwch sy’n ennyn diddordeb pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae unrhyw un yn gallu cymryd rhan trwy baentio cerrig neu gregyn a’u cuddio o amgylch y pentref. Ewch ati i chwilio am y cerrig a’u hail-guddio, postiwch luniau o’r cerrig yr ydych yn dod o hyd iddyn nhw ar gyfryngau cymdeithasol i weld pa mor bell mae’ch cerrig yn teithio. Ar ôl paentio eich cerrig, cofiwch roi ‘Llanbed-rocks’ arnyn nhw yna cadwch lygad ar dudalennau Facebook ac Instragram i olrhain taith eich cerrig! Ar y wal y tu allan i Spar yn Llanbedrog gallwch weld rhai o’r cerrig a grëwyd yng nghyfnod y cyfnod clo Covid-19 cyntaf. Maen nhw’n dangos yr ysbryd cymunedol oedd yn y gymdeithas yn ystod cyfnod anodd.