Shops and Stores

Beth bynnag sydd arnoch ei angen ar gyfer eich gwyliau mae siopau pentref Llanbedrog yn cadw ystod wych o gynnyrch tymhorol lleol a rhoddion.

Mae Modurdy Llanbedrog ar yr A499 wrth y fynedfa i Lanbedrog ac, yn ogystal â phetrol a disel, mae’n gwerthu papurau newydd a’r holl hanfodion gan gynnwys llaeth ffres, bara a hufen iâ. Ym Modurdy Llanbedrog fe gewch stoc dda o nwy patio a choed tân.

Yng nghanol y pentref mae siop Spar sy’n cadw dewis o nwyddau. O bapurau newydd, ffrwythau a llysiau ffres i flodau a digonedd o fwyd barbeciw yn yr haf, mae’r tîm yn Spar yn deall y galw tymhorol. Mae dewis ardderchog o win a chwrw bob amser sy’n addas ar gyfer bob pryd ac achlysur.

Wrth ymyl Spar mae Fferyllfa Llanbedrog. Mae’r fferyllfa yma wedi ennill gwobrau ac mae’n cynnig cyngor cyfrinachol, archwiliadau iechyd ac yn gwerthu dewis cynhwysfawr o nwyddau iechyd a lles. I gael rhagor o fanylion am yr amseroedd agor diweddaraf a gofal iechyd yng Nghymru, edrychwch ar eu tudalen Facebook  sy’n cael ei diweddaru’n aml.

Os oes gennych ddiddordeb mewn celf, nwyddau i’r cartref, llyfrau ac anrhegion lleol, mae gan y siop yng Nghanolfan Gelfyddydau Oriel Plas Glyn y Weddw a’r Caffi ddetholiad gwych ac mae Siop y Plas wrth yr eglwys yn cynnig detholiad tebyg yn ystod misoedd yr haf.

Yn Abersoch mae siop Londis a Spar yn ogystal â siop gig ragorol. Mae siop gig Terry’s Family Butchers yn cynnig cigoedd lleol o ansawdd uchel, mae’r crancod ffres parod a’r pastai poeth blasus bob amser yn gwerthu’n gyflym. Edrychwch ar dudalen Facebook Terry’s Family Butchers i weld beth sy’n dod i’r siop yn ffres bob dydd a’r cynnyrch tymhorol. Ar hyd yr un rhes o siopau mae Caffi Blades gyda chynnyrch deli hyfryd gan gynnwys bara arbennig, bwyd sawrus, ffrwythau a llysiau ffres, cacennau a mwy i’ch temtio.

Un lle sydd newydd agor yn ddiweddar ym Mynytho yw The Farm Gate, siop hunanwasanaeth awyr agored ger y ffordd. Dechreuodd The Farm Gate trwy werthu wyau gyda blwch pres, ac mae bellach yn gwerthu amrywiaeth eang o gynnyrch fferm lleol wrth giât y fferm ac ar-lein.

Ym Mhwllheli cewch ddewis o archfarchnadoedd cenedlaethol gan gynnwys Lidl, Asda ac Iceland a dewis gwych o siopau annibynnol gan gynnwys Pysgod Llŷn Seafoods, Gwin Llŷn, a Chigyddion Pwllheli.

Beth bynnag fydd ei angen arnoch tra ydych ar wyliau, gall ein cyflenwyr lleol o bob cwr o Ben Llŷn a Chymru fodloni a rhagori ar eich disgwyliadau.